top of page

Ein Hyfforddwyr / Our Instructors

split boarding, french alps

Bedwyr ap Gwyn

Perchennog a Chyfarwyddwr Pellennig. 

Yn wreiddiol o Llanelli ond bellach yn bwy yn Betws y Coed.

Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y maes awyr agored. 

Wrth ei fodd yn y mor ac ar y mynydd. Mae ei deulu, Cymru a chwareon yn agos iawn at ei galon.

Mae hefyd yn gyfarwyddwr ar gwmni Cwrw Nant ac Eira Gwyn 

surf lesson

Guto Roberts

Yn wreiddiol o Benllech, Ynys Mon, ond bellach yn byw yn Y Felinheli.

Guto yw un o'n hyfforddwyr syrffio a padlfyrddio mwyaf profiadol. Yn syrffwr eiddgar yng ngogledd Cymru ers dros chwarter canrif.

Mae hefyd yn gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae ei deulu byd natur, syrffio a Chymru yn agos iawn at ei galon.

merin.jpg

Merin ap Martin

Hogyn o Dyffryn Conwy, a ddysgodd syrffio yn Surf Snowdonia, ond sydd bellach yn gartrefol yn y Mor.

Yn brentis i Pellennig, mae o eisoes yn hyfforddwr Eirafyrddio cymwysedig ac efo cymwyster cymorth 1af ac achub bywyd yn y Mor.

Mae'n mwynhau teithio ac yn gobeithio gweld chydig or byd trwy chwaeron awyr agored.

Mae yn ffarmwr ac yn hyfforddwr cwn defaid.

PHOTO-2026-04-28-13-41-21.jpg

Alice Lawrence

Wedi ei geni a'i magu ym Mhen Llyn, wedi;i hamgylchynu gan y mor, gyda chwilfrydedd am y byd o dan y tonnau, astudiodd Daearyddiaeth Morol ym Mhrifysgol  Caerdydd gan ddychwelyd i ogledd Cymru i wneud gradd Meistir mewn Diogelu Amgylchedd Morol. Aeth i weithio am ddegawd fel Biolegydd Morol yn Samoa ym moor y Pacific. Mae'n mwynhau chwaraeon dwr yn ogystal a gwarchod yr amgylchedd.

IMG_0345.jpeg

Gwenlli Dafydd

Wedi ei geni a'i magu ar Ynys Mon. Mae Gwenlli wedi bod yn syrffio ers yn ferch ifanc, mae hefyd yn mwynhau nifer o chwaraeon awyr agored eraill, fel Eirafyrddio, Beicio Mynydd a Mynydda. 

Mae hefyd wrth ei bodd ar y cae rygbi.

bottom of page