top of page

Ar y dudalen hon, cewch hyd i wybodaeth am y wobr newydd: Gwobr Tonnau.

Gwobr am Antur, Amgylchedd, Cymru.

 

Gwobr Tonnau
Dathliad o’r tonnau, tir, a diwylliant, wedi’i gynllunio i ysbrydoli cysylltiad â’r byd naturiol trwy chwaraeon dŵr, treftadaeth, a gofal amgylcheddol.

Lefelau’r Wobr
Bydd gan y cynllun dri lefel: Mini Mal, Hirfwrdd a Sgodyn. Rhaid i gyfranogwyr gwblhau’r holl feini prawf ar un lefel cyn symud ymlaen i’r nesaf.

 

Elfennau Craidd Ar Bob Lefel
Chwaraeon Dŵr
Cymerwch ran mewn o leiaf un gamp dŵr (syrffio) a dangoswch welliant yn eich sgiliau:

  • Dysgwch dechnegau a diogelwch dŵr penodol i’r gamp.

  • Cymerwch ran mewn sesiynau grŵp i ddatblygu gwaith tîm a hyder yn y dŵr.

Diogelwch ac Achub bywyd

  • Dysgwch dechnegau achub (e.e.  cynorthwyo nofwyr, achub ar fwrdd).

  • Deall ceryntau rip a llanwau.

Hanes Lleol a Threftadaeth Gymraeg

  • Astudiwch hanes lleol a dysgwch enwau Cymraeg nodweddion arfordirol, bywyd gwyllt, coed, a phlanhigion

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf

  • Cwblhau hyfforddiant wedi’i deilwra i’r lefel 

  • Pwyslais ar anafiadau sy’n gysylltiedig â'r dŵr 

Gwaith Cadwraeth

  • Cyfrannu at ymdrechion cadwraeth arfordirol, megis glanhau traethau a phlannu coed mewn ardaloedd arfordirol.

  • Arsylwi a dogfennu newidiadau mewn bioamrywiaeth dros amser.

Gofynion Lefelau

  • Foamie’ Tystysgrif Rhagarweiniol
    Ymroddiad amser: 1 sesiwn (2.5 awr)
    Ffocws ar sgiliau cychwynnol mewn camp dŵr, cyflwyniad i ddiogelwch dŵr, cymorth cyntaf sylfaenol, cyflwyniad byr i hanes a bywyd gwyllt lleol.
    Cwblhau prosiect cadwraeth bach (e.e. glanhau traeth).

  • ‘Mini Mal’ 
    Ymroddiad amser: 2 sesiwn tua 5 awr
    Ffocws ar sgiliau sylfaenol mewn un gamp dŵr a ddewiswyd, cyflwyniad i ddiogelwch dŵr, cymorth cyntaf sylfaenol, ac archwilio cychwynnol hanes a bywyd gwyllt lleol.
    Cwblhau prosiect cadwraeth bach (e.e., tynnu planhigion goresgynnol o ardal traeth).

  • Hirfwrdd
    Ymroddiad amser: 5 sesiwn tua 12.5 awr
    Dangos cynnydd mewn camp dŵr a ddewiswyd a dealltwriaeth ddyfnach o dechnegau achub dŵr.
    Dysgu pynciau treftadaeth Cymraeg mwy manwl, megis chwedlau sy’n gysylltiedig â’r arfordir.
    Cyfrannu at brosiect cadwraeth o faint canolig, megis plannu coed a chreu dyddiaduron bioamrywiaeth.

  • Sgodyn
    Ymroddiad amser: 10 sesiwn 25 awr
    Parhau i ddangos cynnydd a chynnal gweithdy diogelwch/achub dŵr.
    Cyflwyno prosiect sy’n cyfuno treftadaeth Gymraeg, astudiaeth bioamrywiaeth, a myfyrdodau personol.
    Cyfrannu at weithgareddau amgylcheddol cadwraeth mwy dwys ac archwilio bwydydd gwyllt

Dathlu a Chydnabyddiaeth
Bydd cyfranogwyr sy’n cwblhau pob lefel yn derbyn tystysgrifau.

Gowbr tonnau mini mal 2026.jpg
Cefnogwyd gan / Supported by
ND_ logo_ navy + green.png
bottom of page